מקראה בוולשית עם גלוסר עברי

עדכון אחרון: 2021/06/13

המקראה הזאת נועדה לסייע לתלמידות·ים בקורס הוולשית שאני מלמד באוניברסיטה העברית. אם יהיו אחרות·ים שימצאו בו תועלת, מה טוב.

כמה נקודות בסדר אקראי:

  • לחיצה על כל מילה מובילה לערך המתאים בגלוסר (רשימת המילים למטה), מלבד בשלושת הטקסטים האחרונים, שמהווים קריאת רשות.
  • הגלוסר תפור בדיוק לטקסטים המופיעים במקראה, לא פחות ולא יותר (כלומר, לא מופיעות בו מילים שנעדרות מהטקסטים, וכל המילים שבטקסטים מופיעות).
  • כל צורות הנטיה בטקסט מנותחות מורפולוגית בקצרה.
  • לא לכל הצורות שנמנות תחת bod בגלוסר התנהגות תחבירית־מבנית זהה. הבחירה לקבץ אותן ביחד היא פרקטית; בהבדל ביניהן נדון בשיעורים.
  • אין התייחסות למוטציות בגלוסר.
  • כמו בכל שפה, מילות־יחס אי אפשר באמת לתרגם באופן מילוני. מה שמופיע כאן בגלוסר הוא רק קירוב כללי.
  • ריחוף של הסמן מעל קיצור או ראשי־תיבות (כמו „ש״ת” בשביל „שם תואר”) יציג את הפירוש.
  • העדפתי לקצר בהגדרות; בשביל פירוט יש את ה־GPC.
  • הערכים בגלוסר מסודרים לפי הסדר האלפביתי הוולשי.
  • החלוקה לחלקי דיבר לא מייצגת את המציאות הלשונית, שהיא מורכבת יותר, אלא אמורה רק להוות סוג של עזר מסורתי שנותן כיוון כללי לתפקיד ולתכונות התחביריות. נדייק ונדון בזה בשיעורים.
  • לא הבחנתי בין סוגי הכינויים השונים בגלוסר כדי לא העמיס. נדבר על זה בשיעורים.
  • באופן כללי העדפתי לחלק ליחידות קטנות (במקרים מסויימים גם מתחת לרמת המילה האורתוגרפית) כך שהקוראות·ים יצטרכו להרכיב אותן ביחד. זאת גישה עדיפה, לדעתי, על הצגה של היחידות באופן שמחבר אותן ביחד מראש.
  • עבור הטקסט האחרון, Gofid, קיימת הקלטה (רכישה; יוטיוב: א׳, ב׳). לחיצה על הסימן ▸ תשמיע את ההקלטה של המשפט.
  • הסיבה ששמות תואר בנקבה ממויינים תחת הרשומה בזכר נובעת מסיבות מבניות בלבד.

קבצי המקור (קוד + טקסט) זמינים כאן. הקוד לא מופתי, אלא סקריפט קטן ומטולא בפייתון, אבל הוא עובד וזה מה שחשוב. על סידור האותיות לפי הסדר הוולשי אחראית הספריה PyICU. קבצי המילון כתובים ב־YAML ונקראים בעזרת PyYaml. הפקת הפלט ב־HTML נעשית בעזרת Dominate.

בטלפונים מוצג רק הטקסט הוולשי; במסך של מחשב או טבלט, שהוא גדול יותר, יש מקום להציג את את הטקסט המקורי. לא עשיתי בדיקות מקיפות לראות שזה עובד במכשירים ודפדפנים שונים; אם התצוגה תקולה אצלכן·ם בבקשה תגידו לי.

אם מצאתם טעות או שמשהו לא מובן, צרו בבקשה קשר; כשמזינים ידנית הרבה מידע למחשב תמיד יש טעויות.

יודה רונן

Y Frân Ddu
1 Yr oedd ar y Frân Ddu eisiau diod, a bu’n chwilio ym mhobman am ddŵr. 2 O’r diwedd gwelodd biser mawr â thipyn bach, bach o ddŵr yn ei waelod.
3Wel! Wel!” meddai. 4Dyma ddŵr, ond ni allaf ei gael. 5 Mae fy mhig yn rhy fer i fynd i waelod y piser. 6 Pa beth a wnaf?”
7 Ceisiodd dorri’r piser, ond ni allai. 8 Ceisiodd ei daflu er mwyn i’r dŵr redeg allan, ond nid oedd yn ddigon cref.
9Rhaid imi eistedd i lawr i feddwl,” meddai’r Frân Ddu.
10 Yna gwelodd bentwr mawr o gerrig mân, a daeth gwên fawr dros ei hwyneb. 11 Cododd o’i heistedd ac aeth at y cerrig. 12 Cariodd hwy bob yn un a’u gollwng i’r piser. 13 Ar ôl eu gollwng i gyd yr oedd y dŵr wedi codi’n uchel. 14 Rhoddodd y frân ei phig i mewn unwaith eto; ac yfodd nes gadael y piser heb ddim ond cerrig mân y tu mewn iddo.
Harri Potter a Maen yr Athronydd Harry Potter and the Philosopher’s Stone
1 Broliai Mr a Mrs Dursley, rhif pedwar Privet Drive, eu bod nhw’n deulu cwbl normal, diolch yn fawr iawn ichi. 2 Fyddai neb yn disgwyl iddyn nhw, o bawb, fod yn rhan o rywbeth rhyfedd neu anesboniadwy, oherwydd doedden nhw ddim yn credu yn y ffasiwn rwdlmi-lol. 1 Mr and Mrs Dursley, of number four, Privet Drive, were proud to say that they were perfectly normal, thank you very much. 2 They were the last people you’d expect to be involved in anything strange or mysterious, because they just didn’t hold with such nonsense.
3 Cyfarwyddwr cwmni cynhyrchu driliau o’r enw Grunnings oedd Vernon Dursley, dyn mawr, trwm â gwddf hynod o fyr, er bod ganddo fwstash hir iawn. 4 Dynes denau â gwallt melyn oedd Mrs Dursley. 5 Roedd ganddi hi bron ddwywaith y maint arferol o wddf, ac roedd hynny’n handi iawn gan ei bod hi’n treulio cymaint o amser yn ymestyn dros waliau’r ardd, yn sbecian ar y cymdogion. 6 Roedd gan y Dursleys fab bychan o’r enw Dudley, ac yn eu barn nhw doedd dim bachgen gwell yn bod. 3 Mr Dursley was the director of a firm called Grunnings, which made drills. 4 He was a big, beefy man with hardly any neck, although he did have a very large moustache. 5 Mrs Dursley was thin and blonde and had nearly twice the usual amount of neck, which came in very useful as she spent so much of her time craning over garden fences, spying on the neighbours. 6 The Dursleys had a small son called Dudley and in their opinion there was no finer boy anywhere.
7 Roedd gan y Dursleys bopeth roedd arnyn nhw’i eisiau, ond roedd ganddyn nhw hefyd gyfrinach, a’u hofn mawr oedd y byddai rhywun yn ei darganfod. 8 Doedden nhw ddim yn meddwl y medren nhw ei ddioddef petai rhywun yn dod i wybod am y Potters. 9 Roedd Mrs Potter yn chwaer i Mrs Dursley, ond doedden nhw ddim wedi cyfarfod ers blynyddoedd; a dweud y gwir, cymerai Mrs Dursley arni nad oedd ganddi chwaer, oherwydd roedd ei chwaer a’i gŵr da-i-ddim mor an-Ddursleyaidd ag roedd yn bosib bod. 10 Arswydai’r Dursleys wrth feddwl beth ddywedai’r cymdogion petai’r Potters yn dod i’r stryd. 11 Gwyddent fod gan y Potters hefyd fab bychan, ond doedden nhw erioed wedi ei weld. 12 Roedd y bachgen hwn yn rheswm arall dros gadw’r Potters draw; doedden nhw ddim eisiau i Dudley gymysgu â phlentyn felly. 7 The Dursleys had everything they wanted, but they also had a secret, and their greatest fear was that somebody would discover it. 8 They didn’t think they could bear it if anyone found out about the Potters. 9 Mrs Potter was Mrs Dursley’s sister, but they hadn’t met for several years; in fact, Mrs Dursley pretended she didn’t have a sister, because her sister and her good-for-nothing husband were as unDursleyish as it was possible to be. 10 The Dursleys shuddered to think what the neighbours would say if the Potters arrived in the street. 11 The Dursleys knew that the Potters had a small son, too, but they had never even seen him. 12 This boy was another good reason for keeping the Potters away; they didn’t want Dudley mixing with a child like that.
13 Pan ddeffrodd Mr a Mrs Dursley ar y bore Mawrth tamp, llwyd hwnnw lle mae ein stori ni’n dechrau, doedd dim byd yn yr awyr gymylog tu allan i awgrymu y byddai pethau rhyfedd ac anesboniadwy’n digwydd dros y wlad i gyd cyn bo hir. 14 Canai Mr Dursley o dan ei wynt wrth ddewis ei dei mwyaf anniddorol ar gyfer mynd i’r gwaith a sgwrsiai Mrs Dursley yn fodlon wrth lusgo Dudley, oedd yn sgrechian nerth esgyrn ei ben, i’w gadair uchel. 13 When Mr and Mrs Dursley woke up on the dull, grey Tuesday our story starts, there was nothing about the cloudy sky outside to suggest that strange and mysterious things would soon be happening all over the country. 14 Mr Dursley hummed as he picked out his most boring tie for work and Mrs Dursley gossiped away happily as she wrestled a screaming Dudley into his high chair.
15 Sylwodd yr un o’r ddau ar dylluan frech yn hedfan heibio’r ffenest. 15 None of them noticed a large tawny owl flutter past the window.
Y Tywysog Bach Le Petit Prince
1 Un tro, pan oeddwn i’n chwech oed, fe welais i lun godidog mewn llyfr am y fforest wyryfol, llyfr o’r enwHanesion Byw”. 2 Llun o neidr boa yn llyncu anifail gwyllt oedd e. 3 Dyma gopi o’r darlun: 1 Lorsque j’avais six ans j’ai vu, une fois, une magnifique image, dans un livre sur la forêt vierge qui s’appelait Histoires vécues. 2 Ça représentait un serpent boa qui avalait un fauve. 3 Voilà la copie du dessin.
4Mae nadredd boa yn llyncu eu hysglyfaeth yn gyfan, heb eu cnoi,” meddai’r llyfr. 5Maen nhw’n methu symud wedyn ac maen nhw’n mynd i gysgu am chwe mis i dreulio’r bwyd.” 4 On disait dans le livre : « Les serpents boas avalent leur proie tout entière, sans la mâcher. 5 Ensuite ils ne peuvent plus bouger et ils dorment pendant les six mois de leur digestion ».
6 Bues i’n meddwl llawer am anturiaethau yn y jyngl wedi hynny, ac ymhen amser mi lwyddais i dynnu fy narlun cyntaf â phensil lliw. 7 Darlun rhif 1. 8 Tebyg i hyn oedd e: 6 J’ai alors beaucoup réfléchi sur les aventures de la jungle et, à mon tour, j’ai réussi, avec un crayon de couleur, à tracer mon premier dessin. 7 Mon dessin numéro 1. 8 Il était comme ça :
9 Dangosais fy nghampwaith i oedolion, a gofyn a oedd fy narlun yn eu dychryn nhw. 9 J’ai montré mon chef-d’œuvre aux grandes personnes et je leur ai demandé si mon dessin leur faisait peur.
10Pam dylai het ein dychryn ni?” oedd eu hateb. 10 Elles m’ont répondu : « Pourquoi un chapeau ferait-il peur ? »
11 Nid darlun o het oedd gen i. 12 Darlun o neidr boa yn treulio eliffant oedd e. 13 Yna mi dynnais i lun o du-mewn neidr boa er mwyn i’r oedolion gael deall. 14 Mae gofyn esbonio popeth iddyn nhw. 15 Tebyg i hyn oedd fy narlun rhif 2: 11 Mon dessin ne représentait pas un chapeau. 12 Il représentait un serpent boa qui digérait un éléphant. 13 J’ai alors dessiné l’intérieur du serpent boa, afin que les grandes personnes puissent comprendre. 14 Elles ont toujours besoin d’explications. 15 Mon dessin numéro 2 était comme ça :
16 Cynghorodd yr oedolion fi i roi’r gorau i ddarlunio nadredd boa ar agor neu ar gau, a rhoi fy mryd yn hytrach ar ddaearyddiaeth, hanes, mathemateg, a gramadeg. 17 Dyna sut, a minnau’n chwech oed, y rhois i’r gorau i yrfa ddisglair fel arlunydd. 18 Roedd methiant fy narluniau rhif 1 a 2 wedi fy siomi. 19 Dydy oedolion byth yn deall dim byd heb help, ac mae plant yn blino gorfod esbonio iddyn nhw byth a beunydd. 16 Les grandes personnes m’ont conseillé de laisser de côté les dessins de serpents boas ouverts ou fermés, et de m’intéresser plutôt à la géographie, à l’histoire, au calcul et à la grammaire. 17 C’est ainsi que j’ai abandonné, à l’âge de six ans, une magnifique carrière de peintre. 18 J’avais été découragé par l’insuccès de mon dessin numéro 1 et de mon dessin numéro 2. 19 Les grandes personnes ne comprennent jamais rien toutes seules, et c’est fatigant, pour les enfants, de toujours leur donner des explications…
20 Felly bu rhaid i fi ddewis gwaith arall, ac mi ddysgais hedfan awyrennau. 21 Rwy i wedi hedfan ryw gymaint i bob rhan o’r byd, ac yn wir mae daearyddiaeth wedi bod o fudd mawr i fi. 22 Fe allwn i wahaniaethu rhwng Tseina ac Arisona ar yr olwg gyntaf. 23 Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch chi wedi colli eich ffordd yn y nos. 20 J’ai donc dû choisir un autre métier et j’ai appris à piloter des avions. 21 J’ai volé un peu partout dans le monde. 22 Et la géographie, c’est exact, m’a beaucoup servi. 23 Je savais reconnaître, du premier coup d’œil, la Chine de l’Arizona. 24 C’est utile, si l’on s’est égaré pendant la nuit.
24 Rwy i wedi cwrdd â nifer fawr o bobl bwysig yn ystod fy mywyd. 25 Rwy i wedi treulio llawer o amser yn nhai oedolion. 26 Rwy i wedi eu gweld nhw’n agos iawn. 27 Dydy hynny ddim wedi gwella ryw lawer ar fy marn i ohonyn nhw. 25 J’ai ainsi eu, au cours de ma vie, des tas de contacts avec des tas de gens sérieux. 26 J’ai beaucoup vécu chez les grandes personnes. 27 Je les ai vues de très près. 28 Ça n’a pas trop amélioré mon opinion.
28 Pan fyddwn i’n cyfarfod ag un oedd yn ymddangos i fi ychydig yn fwy deallus na’i gilydd, fe fyddwn i’n rhoi prawf arno â darlun rhif 1, sy’n ddiogel gen i o hyd, er mwyn cael gwybod a oedd e yn ddeallus mewn gwirionedd. 29 Ond yr un fyddai’r ateb bob tro, “Het yw hi.” O hynny ymlaen fyddwn i ddim yn siarad ag e am nadredd boa, nac am fforestydd gwyryfol, nac am sêr. 30 Fe fyddwn i’n disgyn i’w lefel e, ac yn siarad ag e am chwarae cardiau, golff, gwleidyddiaeth a theis. 31 Ac fe fyddai’r oedolyn yn falch iawn o gael adnabod rhywun mor rhesymol. 29 Quand j’en rencontrais une qui me paraissait un peu lucide, je faisais l’expérience sur elle de mon dessin n°1 que j’ai toujours conservé. 30 Je voulais savoir si elle était vraiment compréhensive. 31 Mais toujours elle me répondait : « C’est un chapeau. » Alors je ne lui parlais ni de serpents boas, ni de forêts vierges, ni d’étoiles. 32 Je me mettais à sa portée. 33 Je lui parlais de bridge, de golf, de politique et de cravates. 34 Et la grande personne était bien contente de connaître un homme aussi raisonnable…
Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud Alice’s Adventures in Wonderland
1Y ffordd acw,” ebe’r Gath gan chwifio’i phawen dde, “mae ’na Hetiwr yn byw; a’r ffordd acw,” gan chwifio’r llall, “mae ’na Sgwarnog Fawrth yn byw. 2 Ewch i ymweld â’r naill neu’r llall: mae’r ddau yn wallgof.” 1 “In that direction,” the Cat said, waving its right paw around, “lives a Hatter: and in that direction,” waving the other paw, “lives a March Hare. 2 Visit either you like: they’re both mad.”
3Ond does arna’ i ddim eisiau mynd i blith pobol wallgof,” ebe Alys. 3 “But I don’t want to go among mad people,” Alice remarked.
4O, fedrwch chi ddim peidio,” meddai’r Gath, “rydyn ni i gyd yn wallgof yma. 5 Rydw i’n wallgof. 6 Rydych chi’n wallgof.” 4 “Oh, you can’t help that,” said the Cat: “we’re all mad here. 5 I’m mad. 6 You’re mad.”
7Sut gwyddoch chi mod i’n wallgof?” gofynnodd Alys. 7 “How do you know I’m mad?” said Alice.
8Rhaid eich bod chi,” ebe’r Gath, “neu fuasech chi ddim wedi dod yma.” 8 “You must be,” said the Cat, “or you wouldn't have come here.”
Llyfr Genesis: Hanes y Creu ספר בראשית: סיפור הבריאה
1 Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. 1 בְּרֵאשִׁ֖ית בָּרָ֣א אֱלֹהִ֑ים אֵ֥ת הַשָּׁמַ֖יִם וְאֵ֥ת הָאָֽרֶץ׃
2 Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. 2 וְהָאָ֗רֶץ הָיְתָ֥ה תֹ֙הוּ֙ וָבֹ֔הוּ וְחֹ֖שֶׁךְ עַל־פְּנֵ֣י תְה֑וֹם וְר֣וּחַ אֱלֹהִ֔ים מְרַחֶ֖פֶת עַל־פְּנֵ֥י הַמָּֽיִם׃
3 A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. 3 וַיֹּ֥אמֶר אֱלֹהִ֖ים יְהִ֣י א֑וֹר וַֽיְהִי־אֽוֹר׃
4 Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. 4 וַיַּ֧רְא אֱלֹהִ֛ים אֶת־הָא֖וֹר כִּי־ט֑וֹב וַיַּבְדֵּ֣ל אֱלֹהִ֔ים בֵּ֥ין הָא֖וֹר וּבֵ֥ין הַחֹֽשֶׁךְ׃
5 Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a’r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. 5 וַיִּקְרָ֨א אֱלֹהִ֤ים ׀ לָאוֹר֙ י֔וֹם וְלַחֹ֖שֶׁךְ קָ֣רָא לָ֑יְלָה וַֽיְהִי־עֶ֥רֶב וַֽיְהִי־בֹ֖קֶר י֥וֹם אֶחָֽד׃
Llyfr Genesis: Tŵr Babel ספר בראשית: מגדל בבל
1 Un iaith ac un ymadrodd oedd i’r holl fyd. 1 וַֽיְהִ֥י כָל־הָאָ֖רֶץ שָׂפָ֣ה אֶחָ֑ת וּדְבָרִ֖ים אֲחָדִֽים׃
2 Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno. 2 וַֽיְהִ֖י בְּנָסְעָ֣ם מִקֶּ֑דֶם וַֽיִּמְצְא֥וּ בִקְעָ֛ה בְּאֶ֥רֶץ שִׁנְעָ֖ר וַיֵּ֥שְׁבוּ שָֽׁם׃
3 A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a’u crasu’n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch. 3 וַיֹּאמְר֞וּ אִ֣ישׁ אֶל־רֵעֵ֗הוּ הָ֚בָה נִלְבְּנָ֣ה לְבֵנִ֔ים וְנִשְׂרְפָ֖ה לִשְׂרֵפָ֑ה וַתְּהִ֨י לָהֶ֤ם הַלְּבֵנָה֙ לְאָ֔בֶן וְהַ֣חֵמָ֔ר הָיָ֥ה לָהֶ֖ם לַחֹֽמֶר׃
4 Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a’i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.” 4 וַיֹּאמְר֞וּ הָ֣בָה ׀ נִבְנֶה־לָּ֣נוּ עִ֗יר וּמִגְדָּל֙ וְרֹאשׁ֣וֹ בַשָּׁמַ֔יִם וְנַֽעֲשֶׂה־לָּ֖נוּ שֵׁ֑ם פֶּן־נָפ֖וּץ עַל־פְּנֵ֥י כָל־הָאָֽרֶץ׃
5 Disgynnodd yr Arglwydd i weld y ddinas a’r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, 5 וַיֵּ֣רֶד יְהוָ֔ה לִרְאֹ֥ת אֶת־הָעִ֖יר וְאֶת־הַמִּגְדָּ֑ל אֲשֶׁ֥ר בָּנ֖וּ בְּנֵ֥י הָאָדָֽם׃
6 a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. 6 וַיֹּ֣אמֶר יְהוָ֗ה הֵ֣ן עַ֤ם אֶחָד֙ וְשָׂפָ֤ה אַחַת֙ לְכֻלָּ֔ם וְזֶ֖ה הַחִלָּ֣ם לַעֲשׂ֑וֹת וְעַתָּה֙ לֹֽא־יִבָּצֵ֣ר מֵהֶ֔ם כֹּ֛ל אֲשֶׁ֥ר יָזְמ֖וּ לַֽעֲשֽׂוֹת׃
7 Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.” 7 הָ֚בָה נֵֽרְדָ֔ה וְנָבְלָ֥ה שָׁ֖ם שְׂפָתָ֑ם אֲשֶׁר֙ לֹ֣א יִשְׁמְע֔וּ אִ֖ישׁ שְׂפַ֥ת רֵעֵֽהוּ׃
8 Felly gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 8 וַיָּ֨פֶץ יְהוָ֥ה אֹתָ֛ם מִשָּׁ֖ם עַל־פְּנֵ֣י כָל־הָאָ֑רֶץ וַֽיַּחְדְּל֖וּ לִבְנֹ֥ת הָעִֽיר׃
9 Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd (Hebraeg, balal) yr Arglwydd iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear. 9 עַל־כֵּ֞ן קָרָ֤א שְׁמָהּ֙ בָּבֶ֔ל כִּי־שָׁ֛ם בָּלַ֥ל יְהוָ֖ה שְׂפַ֣ת כָּל־הָאָ֑רֶץ וּמִשָּׁם֙ הֱפִיצָ֣ם יְהוָ֔ה עַל־פְּנֵ֖י כָּל־הָאָֽרֶץ׃
Teithio drwy Hanes: Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
1 Os ydy’r diwydiant glo wedi creu gwaith a chwyddo poblogaeth de-ddwyrain Cymru, wnaeth y diwydiant llechi greu gwaith a thirlun arbennig yng ngogledd-orllewin y wlad. 2 Dych chi’n gallu dysgu llawer am y diwydiant llechi yn Amgueddfa Lechi Cymru ger Llanberis. 3 Yn hen weithdai Chwarel Dinorwig, ar lan Llyn Padarn, y mae cartref yr amgueddfa.
4 Mae’r tir llwyd o gwmpas yr amgueddfa yn dweud llawer o stori’r diwydiant llechi. 5 O’r creigiau yma gaeth y llechen ei naddu a’i hollti a’i defnyddio i adeiladu. 6 Wedyn gaeth y llechen ei defnyddio i wneud pethau fel bwrdd du mewn ysgol, bwrdd biliards a cherrig beddi.
7 Roedd llawer o’r llechi’n mynd i Loegr, Iwerddon a’r Almaen. 8 Yn 1688, aeth miliwn o lechi o Gymru i wledydd eraill. 9 Yn 1898 roedd 17,000 o ddynion yn gweithio yn y diwydiant llechi. 10 Roedden nhw’n gwneud gwaith caled a pheryglus. 11 Wnaeth rhai trefi dyfu achos y gwaith — trefi fel Bethesda a Blaenau Ffestiniog. 12 Wnaeth porthladdoedd fel Porth Penrhyn, Porthmadog a Phort Dinorwig dyfu hefyd. 13 Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf wnaeth y diwydiant ddirywio a nawr dim ond llond llaw o chwareli sydd yng Nghymru, yn cyflogi dim ond llond llaw o bobl.
Teithio drwy Hanes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
1 Mae pob llyfrgell yng Nghymru yn drysor, ond does dim un llyfrgell mor werthfawr â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2 Roedd 110,000 o bobl Cymru wedi cyfrannu arian i godi’r adeilad hardd ar y bryn, mae’n debyg. 3 Mae 6.5 miliwn o eitemau ar y silffoedd yma! 4 Un o’r eitemau hynny ydy Llyfr Du Caerfyrddin, sef un o’r llawysgrifau Cymraeg hynaf. 5 Yma hefyd mae Llyfr Taliesin, a gweithiau o Loegr, fel gwaith Geoffrey Chaucer.
6 Dydy popeth sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ddim yn hen. 7 Mae papurau newydd, cryno-ddisgiau a rhaglenni teledu yn cael eu cadw yma. 8 Bob dydd mae eitemau newydd yn cyrraedd yr adeilad mawr, trawiadol.
9 Gaeth y Llyfrgell ei sefydlu yn 1907, ar ôl ymgyrch hir. 10 Yn 1905 roedd Llywodraeth Prydain wedi addo sefydlu llyfrgell ac amgueddfa genedlaethol i Gymru.
11 Roedd rhai pobl eisiau i’r llyfrgell fod yn Aberystwyth, ond roedd pobl eraill eisiau iddi fod yng Nghaerdydd. 12 Wnaeth David Lloyd George gefnogi’r ymgyrch i sefydlu’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. 13 Un rheswm am hyn oedd achos bod Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau, wedi cynnig ei gasgliad gwerthfawr o lyfrau a swm o arian i sefydlu llyfrgell yn Aberystwyth.
14 Mae copi o bob llyfr sy’n cael ei gyhoeddi yng Nghymru yn mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol. 15 Bydd copi o’r llyfr hwn yno erbyn hyn!
Teithio drwy Hanes: Y Senedd, Bae Caerdydd
1 Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symbol o’r Gymru newydd. 2 Yn y Senedd ym Mae Caerdydd mae cartref y Cynulliad. 3 Yn 1997 gaeth pobl Cymru y cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn sefydlu Cynulliad i Gymru. 4 Roedd y canlyniad yn agos iawn, gyda 559,419 yn dweud ‘Ie’ a 552,698 yn dweud ‘Na’. 5 Roedd Machynlleth, Abertawe a Wrecsam eisiau i adeilad y Cynulliad fod yn eu tref nhw, ond Caerdydd oedd y dewis. 6 Aeth y Cynulliad i gartref dros dro yng Nghaerdydd, sef Tŷ Crucywel.
7 Syr Richard Rogers gynlluniodd yr adeilad newydd — adeilad agored gyda llawer o wydr a llechi a dur. 8 Gaeth yr adeilad ei agor yn 1999. 9 Adeilad newydd, mileniwm newydd! 10 Mae’r adeilad yn edrych dros gronfa ddŵr croyw Bae Caerdydd a’r morglawdd newydd. 11 Un o gymdogion y Senedd ydy Canolfan Mileniwm Cymru. 12 Ar adeilad Canolfan y Mileniwm mae cerdd mewn llythrennau enfawr — rhai o’r rhai mwyaf yn y byd. 13 Geiriau Gwyneth Lewis ydy ‘Creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen’, ac yn Saesneg, ‘In these stones horizons sing’. 14 Geiriau bendigedig i orffen y llyfr yma.
Darlun Picture
1 Y mae’n fore Sadwrn gwlyb, oer, diwrnod fy mhen blwydd yn chwech oed. 2 Mae mam newydd llnau tua’r tân, ac mae tân isel, coch yn y grât. 3 Safaf innau wrtho, ac er y gwres, mae arnaf annwyd oherwydd y tywydd diflas. 4 Yr wyf yn crïo ac yn crïo, ac ni wn am beth, ddim ond efallai am ei bod yn ddiwrnod annifyr. 5 Yr wyf yn sicr nad am na chefais anrheg, oblegid nid ydym byth yn cael anrhegion pen blwydd. 6 Mae mam yn dweud bod y Brenin Mawr yn gofalu am anfon glaw ar ddydd Sadwrn am nad oes ysgol. 1 It is a cold, wet Saturday morning, the day of my sixth birthday. 2 Mam has just cleaned the hearth, and the fire is low, red in the grate. 3 I stand close to it and its warmth. I have a cold because of the bad weather. 4 I am crying and crying and I don’t know why, except maybe because it is a miserable day. 5 I’m not expecting a present because we never have birthday presents. 6 Mam says that the Good Lord is careful to send rain on Saturday when there is no school.
Atgofion
1  Un peth a hoffem yn fwy na dim fyddai gweld pobl yn galw gyda’r nos yn enwedig os byddent yn bobl ddiddorol ac yn gallu dweud straeon. 2  Un o’r rheini fyddai Ann Jones, Tan Gaer, oedd yn byw ymhell o’r capel wrth ymyl y chwarel. 3  Felly pan fyddai cwarfod byddai hi yn dŵad i lawr efo’i thri phlentyn, ac aros yn ein tŷ ni tra byddai’r plant yn y cyfarfod. 4  Wedyn deuai’r plant i lawr efo ni a chael tamaid o fwyd cyn cychwyn adref. 5  Yr oedd hi a’i gŵr yn rhai glân eu clonnau ac yn ddigri, y ddau ohonynt, y hi yn ffraeth iawn ei thafod. 6  Byddai ganddi storïau am yr amser yr oedd yn gweini yn Llanwnda mewn ffarm, a’r Parch. Richard Humphreys, Bontnewydd, hen lanc yn lletya ar y ffarm.
7  Un bore prysur aeth Mr. Humphreys i’r gegin i ofyn yn wylaidd iawn a oedd ei esgidiau yn barod. 8  “Nac ydyn, Mr. Humphreys,” meddai hithau, “mae ar yr hen gythral hen ddynas yma eisio gweld y piseri llaeth yn sgleinio ar ben y wal yna o flaen y ffenast, a ches i ddim amser i llnau nhw.” 9  Y Parch. R.H. yn ymgilio dan wenu i’r parlwr.
10  Un arall a alwai acw yn fynych gyda’r nos fyddai Wmffra Jones, Bryn Golau, neu Wmffra Siôn fel y gelwid ef gan bawb. 11  Yr wyf wedi sôn amdano yn Y Lôn Wen. 12  Fo fyddai cydymaith nhad wrth fynd a dŵad i’r chwarel.
13  Yr oedd ganddo un stori amdano ef a Nani, ei wraig, yn mynd i’r Sŵ yn Belle Vue, Manceinion. 14  Yr oedd plu estrys yn ffasiynol ar hetiau y pryd hynny, ac yn ddigon drud hefyd. 15  Cafodd mwnci afael ar bluen estrys Nani, a’i thynnu i mewn i’w gawell, ac ni welwyd byth moni. 16  Yr unig gŵyn a gafodd y wraig gan ei gŵr oedd, “Tendia Nani ne dy ben di eith nesa.”
17  Fel yna y treulid gyda’r nos, ac un noswaith fe aeth mor hwyr nes cododd Wmffra Jones reit sydyn, a tharo ei ben yn y simdde fawr a disgyn yn ôl yn glewtan i’w gadair.
Erthygl Wicipedia am Ferdinand de Saussure
1 Ieithydd o’r Swistir oedd Ferdinand de Saussure (26 Tachwedd 1857 – 22 Chwefror 1913). 2 Mae’n cael ei barchu fel tad ieithyddiaeth gyfoes. 3 Roedd ei syniadau yn sail i strwythuriaeth, theori a ddaeth yn ganolog i ieithyddiaeth yr 20g, ac a oedd yn ddylanwadol iawn mewn meysydd eraill megis anthropoleg a beirniadaeth lenyddol. 4 Ganwyd yng Ngenefa a roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Genefa, lle traddododd gyfres o ddarlithoedd yn amlinellu ei syniadau am iaith yn ystod y blynyddoedd 1906 tan 1911. 5 Cyhoeddwyd y darlithoedd hyn gan ei gyn-fyfyrwyr ar ôl ei farwolaeth fel Cwrs Ieithyddiaeth Gyffredinol (Cours de linguistique générale), llyfr pwysicaf ieithyddiaeth gyffredinol hanner cynta’r 20g. 6 Bu farw yn Vufflens-le-Château ger Morges.
Gofid Grief
1  Eisteddai Begw ar stôl o flaen y tân, a’i chefn, i’r neb a edrychai arno, yn dangos holl drychineb y bore. 2  Cyffyrddai ymylon ei siôl dair onglog â’r llawr, a’r llawr yn llawn o byllau mân yn disgyn oddi wrth facsiau eira ag ôl pedolau clocsiau ynddynt. 3  Heddiw, yn wahanol i arfer, yr oedd ei gwallt yn flêr, a hongiai’n gynhinion di-drefn ar ei hysgwydd. 4  Am ryw reswm na wyddai Begw, ni phlethasai ei mam ei gwallt neithiwr. 5  Yr oedd hynny’n beth braf, oblegid byddai ei mam yn tynnu ei gwallt bron o’r gwraidd wrth ei blethu, gyda holl wydnwch ei breichiau a holl rym y dymer y byddai ynddi. 6  Byddai ei phen yn ysu am oriau ar ôl y driniaeth, ond byddai’n braf yn y bore, ar ôl datod y plethi, gael teimlo’r trwch tonnog yn disgyn heibio i’w chlustiau ac ar ei gwddf. 7  Chwythai’r gwynt oer o dan y drysau gan chwythu rhidens y siôl a mynd dan ei thrywsus pais, ond âi gwres y tân at ei phen. 1 Begw was sitting on a stool in front of the fire, with her back, to anyone who might look at it, showing all the disaster of the morning. 2 The edges of her three-cornered shawl touched the floor, while the floor was covered with tiny pools flowing from clots of snow which bore the marks of iron-rimmed clogs. 3 Today, unusually, her hair was untidy, and it hung in disordered strands on her shoulders. 4 For some reason unknown to Begw, her mother hadn’t plaited her hair last night. 5 That was a nice thing, because her mother would almost pull her hair out by the roots in plaiting it, with all the toughness of her arms and all the strength of the temper she was in. 6 Her head would itch for hours after the treatment, but it was nice in the morning, after undoing the plaits, to be able to feel the wavy thickness falling past her ears and onto her neck. 7 The cold wind was blowing under the doors, blowing the fringes of the shawl and going under her drawers, but the fire warmed her head.
8  O fewn pedair blynedd ei phrofiad ar y ddaear dyma’r diwrnod mwyaf digalon a gawsai Begw erioed — diwrnod du, diobaith er bod pob man yn wyn. 9  Cronnai ei hanadl wrth geisio dal ei hocheneidiau’n ôl. 10  Yr oedd arni ofn cael drwg gan ei mam, fel y câi bob amser am ddal i grio. 11  Ond daeth llais ei mam yn fwynach nag arfer y tro hwn. 8 In the four years of her experience on earth this was the most depressing day that Begw had ever known—a black, hopeless day, in spite of every place being white. 9 She held her breath as she tried to keep back her sighs. 10 She was afraid of being scolded by her mother, as she always was for going on crying. 11 But this time her mother’s voice became milder than usual.
12  ‘Dyna chdi rŵan. 13  Waeth befo hi. 14  Dim ond cath oedd hi. 15  Beth tasat ti wedi colli dy fam?’ 12 “There now. 13 Never mind. 14 It was only a cat. 15 What if you’d lost your mother?”
16  Torrodd yr argae wedyn. 17  Ar y funud buasai’n well ganddi hi golli ei mam na cholli Sgiatan. 18  Yr oedd Sgiatan yn ffeind bob amser a’i mam ddim ond ambell dro. 19  Daeth yr hyn a welsai hanner awr yn gynt i’w meddwl yn ei holl fanylion a’i gorchfygu eto. 20  Wrth godi’r bore hwnnw, edrychasai Begw ymlaen at ddiwrnod-gwahanol-i-arfer, am fod yr eira mawr hyd y ddaear, un o’r dyddiau hynny pan gâi dynnu’r llyfr â’r lluniau ofnadwy a’i roi ar y setl, un o’r dyddiau pan gâi wisgo ei hesgidiau gorau, diwrnod tebyg i’r un pan gafodd wlanen a saim gŵydd am ei gwddf a chael brechdan grasu â dŵr a siwgr a sunsur arni, un o’r dyddiau pan eisteddai ei mam wrth y tân i adrodd stori wrthi. 21  Paratoad i’r diwrnod-gwahanol-i-arfer oedd peidio â chael plethu ei gwallt y noson gynt. 22  Parhad o hyn oedd cael gwisgo amdani cyn ei ’molchi a tharo siôl drosti. 16 The flood-gate broke then. 17 At the moment she’d rather have lost her mother than lost Sgiatan. 18 Sgiatan was always good-natured, her mother only once in a while. 19 What she’d seen half an hour before came into her mind in all its details and overwhelmed her again. 20 On getting up that morning, Begw had been looking forward to a different-from-usual-day, because there was deep snow covering the earth, one of those days when she could take down the book with the terrible pictures and put it on the settle, one of the days when she could wear her best shoes, a day like the one when she’d had flannel with goose-grease around her throat and toast soaked in water with sugar and ginger on it, one of the days when her mother would sit by the fire to tell her a story. 21 It had been a preparation for a different-from-usual-day not to have her hair plaited the evening before. 22 It had been a continuation of this to be dressed before she was washed and have a shawl thrown over her.
23  Pan gododd, nid oedd Sgiatan o gwmpas yn unlle, ac er gweiddi ‘Pws, Pws’, ni ddaeth o unman. 24  Toc, mentrodd agor y drws cefn a dyna lle’r oedd Sgiatan — nid ar garreg y drws yn codi ei chynffon ac yn barod i’w rhwbio ei hun yn ei choesau, ond yn gorwedd mewn crwc o ddŵr, ei phedair coes wedi ymestyn allan fel y byddent weithiau ar fatyn yr aelwyd, ond ei dannedd yn ysgyrnygu fel yr hen anifail hyll hwnnw yn y ‘Drysorfa’r Plant’, a’i blew, ei blew melfed, fel hen falwen seimllyd ar lwybr yr ardd, â’i llygaid mor llonydd a rhythlyd â llygaid gwydr ei dol. 25  Ni allai gredu ei bod yn bosibl i Sgiatan, a ganai’r grwndi efo hi cyn iddi fynd i’r gwely neithiwr a wincio arni oddi ar y stôl haearn, fod wedi —. 26  Ni allai ddweud y gair. 27  Yr oedd yn rhy ofnadwy. 28  Ie, ond wedi marw yr oedd, nid oedd yn rhaid i neb ddweud wrthi mai dyma beth oedd marw. 29  Yr oedd hi fel y llygoden a aeth i’r trap. 23 When she got up, Sgiatan wasn’t anywhere around, and though she’d shouted “Puss, Puss”, she didn’t come out from anywhere. 24 Presently, she ventured to open the back door and there was Sgiatan—not on the doorstep raising her tail and ready to rub herself on her legs, but lying in a bucket of water, her four legs stretched out as they sometimes were on the hearth mat, but her teeth snarling like that ugly old animal in “The Children’s Treasury”, and her fur, her velvet fur, like a greasy old slug on the garden path, and her eyes as still and staring as the glass eyes of her doll. 25 She couldn’t believe it was possible for Sgiatan, who’d purred to her before she went to bed last night and winked at her from the iron stool, to be—. 26 She couldn’t say the word. 27 It was too terrible. 28 Yes, but dead was what she was, nobody had to tell her this was what dead was. 29 She was like the mouse who’d gone into the trap.
30  ‘Cau’r drws yna, a thyrd i’r tŷ, mae hi’n oer.’ 30 “Shut that door, and come into the house, it’s cold.”
31  Ei mam yn galw arni, ond sut yr oedd yn bosibl dyfod i’r tŷ. 32  Llygad-dynnid hi at y corff marw. 33  Yr oedd arni ei ofn ac yr oedd arni eisiau rhedeg oddi wrtho, ond hoelid hi wrth y ddaear i edrych arno. 34  Tywynnai’r haul yn danbaid ar wynder yr eira, a disgynnai’r dafnau parhaus oddi ar y bondo ar ei phen. 35  Yr oedd mwclis gwydr yr eira yn estyn crafangau hir allan i dynnu’r dŵr o’i llygaid a’i llygaid bron â mynd ar ôl y dagrau. 36  Ond ni fedrai symud. 37  Pan ddaeth llais ei mam yr eildro, caeodd y drws a thu ôl i’w dywyllwch y teimlodd bang gyntaf y cau drysau a fu yn ei bywyd wedyn. 31 Her mother calling her, but how was it possible to come into the house? 32 She was mesmerized by the dead body. 33 She was afraid of it and she wanted to run from it, but she was nailed to the earth in looking at it. 34 The sun was shining fiercely on the whiteness of the snow, and the steady drops were falling on her head from the eaves. 35 The glass beads of the snow were reaching out long claws to draw the water from her eyes and her eyes were almost following the tears. 36 But she couldn’t move. 37 When her mother’s voice came the second time, she shut the door, and behind its darkness she felt the first pang of doors closing in her life later on.
38  Ei bwriad cyntaf oedd mynd yn ôl i’w gwely er mwyn cael crio’n iawn a rhoi ei phen o dan y dillad. 39  Pe rhoddai ei phen o dan y dillad a chau ei llygaid, byddai yno dywyllwch a dim byd ac ni fedrai weld Sgiatan yn ysgyrnygu ei dannedd. 38 Her first thought was to go back to bed to have a proper cry and put her head under the bedclothes. 39 If she put her head under the clothes and shut her eyes, there would be darkness there and nothing at all and she wouldn’t be able to see Sgiatan gnashing her teeth.
40  ‘’D wyt ti ddim i fynd i’r siamber yna yn dy glocsiau.’ 40 “You’re not to go into that bedroom in your clogs.”
41  O, diar, yr oedd bywyd yn galed. 42  ‘’D wyt ti ddim i wneud hyn, ’dwyt ti ddim i wneud y llall.’ 43  A dim Sgiatan i rwbio’i phen yn ei choesau. 44  Aeth at y tân o lech i lwyn, eistedd ar y stôl a beichio crio. 41 Oh, dear, life was hard. 42 “You’re not to do this, you’re not to do that.” 43 And no Sgiatan to rub her head on her legs. 44 She went to the fire furtively, sat on the stool, and burst out crying.
45  ‘Taw â chlegar,’ oddi wrth ei thad. 46  Clegar — clegar — hen air hyll. 47  Ei thad yn defnyddio hen air fel yna a Sgiatan wedi — wedi — marw! 45 “Stop squawking,” from her father. 46 Squawking—squawking—an ugly old word. 47 Her father using an old word like that when Sgiatan was—was—dead!
48  Cododd i nôl ei doli bren a lapiodd ei siôl amdani. 49  Criodd gymaint am ei phen nes y rhedodd y paent ac i’w cheg. 50  Ceisiai ei swatio yn ei chesail, ond sut oedd modd magu hen beth caled felly ar ôl magu peth mor esmwyth â Sgiatan a edrychai mor ddigri â’i phen allan o’r siôl? 51  Wrth gofio hynny wedyn, taflodd y ddol i lygad y tân. 52  Buasai wrth ei bodd yn ei gweld yn fflamio — y ddol yn cael mynd i’r “tân mawr” ac nid Begw — y hi a’i hen wyneb paent, hyll. 53  Cipiodd ei mam hi o’r fflamau ond nid cyn rhoi clustan iawn i’w merch. 54  Aeth y crio’n sgrechian. 48 She got up to fetch her wooden dolly and wrapped her shawl around it. 49 She cried on it so much that the paint ran and went into its mouth. 50 She tried to snuggle it under her arm, but how could one cuddle a hard old thing like this after cuddling something as soft as Sgiatan, who’d looked so funny with her head sticking out of the shawl? 51 Then, on remembering that, she threw the doll into the heart of the fire. 52 She’d have been glad to see it in flames—the doll could go to “the great fire” and not Begw—her and her ugly old painted face. 53 Her mother snatched it from the flames but not before giving her daughter a proper box on the ear. 54 The crying became screaming.
55  ‘Wel, wir, ’d wn i ddim beth wna i efo’r plentyn yma.’ 55 “Well, indeed, I don’t know what I’m to do with this child.”
56  ‘Eisiau chwip din iawn sydd arni,’ meddai ei thad. 56 “What she needs is a proper spanking,” her father said.
57  ‘Mi allasach chitha feddwl ddwywaith cyn boddi’r gath. 58  ’D wn i ddim beth ydi rhyw ysfa rhoi cath mewn bwced sydd ynoch chi o hyd, cyn gynted ag y gwnaiff hi rywbeth.’ 57 “You could have thought twice before drowning the cat. 58 I don’t know what this craze is that you always have to put a cat in a bucket as soon as it does something.”
59  Felly ei thad a wnaeth. 60  Cododd Begw ac aeth i ben y soffa ac edrych allan. 61  Yr oedd y ddaear i gyd yn fwclis, a’r coed yn estyn bysedd hirion, gwynion tuag atynt. 62  Swatiai’r ieir yng nghornel yr ardd â’u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i’w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer. 63  Yr oedd hen Jac Do mawr du yn pigo asgwrn yn yr eira a lot o adar gwynion fel gwyddau ymhobman. 64  Ar hyd pen y clawdd yr oedd cris-croes ôl traed yr ieir. 65  Rhedai ei llygaid ar ôl yr eira yn bell bell. 66  Yr oedd fel crempog fawr a lot o dyllau ynddi a chyllell ddur las rhyngddi a Sir Fôn. 67  Ond yr oedd ei phen yn troi wrth edrych arni ac yr oedd ei llygaid am ddyfod allan o’i phen o hyd. 68  Dechreuodd y grempog godi rownd ei hymyl a chychwyn tuag ati. 69  Syrthiodd Begw ac ni wyddai ddim wedyn ond ei bod ar lin ei mam, ei phen yn gorwedd ar wlanen arw ei bodis, a’r gadair yn siglo ôl a blaen, blaen ac ôl. 70  Agorodd Begw fotymau’r bodis, a rhoes ei llaw oer ar fron gynnes ei mam. 71  Gyda chil ei llygad gallai weled ei thad ac wrth ei gysylltu â’i gofid caeodd ei llygaid yn sydyn, a thoc aeth i gysgu. 59 So it was her father had done it. 60 Begw got up and went to the end of the sofa and looked outside. 61 The earth was all beads, and the trees were reaching long white fingers towards them. 62 The hens were crouching in the corner of the garden with their heads in their feathers, exactly the same way she’d stuff her head into her fur boa in chapel on a cold Sunday morning. 63 There was a big black old jackdaw picking a bone in the snow and a lot of white birds like geese everywhere. 64 On top of the dyke were the criss-cross footprints of the hens. 65 Her eyes ran after the snow far far away. 66 It was like a big pancake with a lot of holes in it, with a blue steel knife dividing it from Anglesey. 67 But her head was spinning in looking at it and her eyes still wanted to come out of her head. 68 The pancake began to rise around its edges and started towards her. 69 Begw fell, and then she knew only that she was on her mother’s knee, her head lying on the rough flannel of her bodice, with the chair rocking back and forth, forth and back. 70 Begw opened the buttons of the bodice, and put her cold hand on her mother’s warm breast. 71 From the corner of her eye she could see her father, and on connecting him with her grief she quickly shut her eyes, and soon she went to sleep.
72  Gwenai’r hen ddoli nain drwy ei sbectol o’r cwpwrdd gwydr ar y tri, daliai’r llong ar ben y cloc i daro ei gwegil yn y môr ar un ochr ac i foesymgrymu i’r môr yr ochr arall, ac edrychai’r pregethwr yn sarrug iawn o’i ffrâm ar y pared. 72 The old grandmother doll was smiling from the china cabinet through her spectacles at the three of them, the ship on the clock went on striking its bow into the sea on one side and curtseying to the sea on the other, and the preacher was staring very surlily from his frame on the wall.
73  Y noson honno, deffroes Begw yn ei gwely rywdro yng nghanol y nos fawr. 74  Agorodd ei llygaid ar y blanced ddu o dywyllwch. 75  Ni allai ddweud ym mha le’r oedd y ffenestr na’r drws. 76  Rhaid ei bod ymhell ar y nos, oblegid ni ddeuai golau’r tân i mewn drwy ddrws y siamber. 77  Ni chlywai Begw ddim ond sŵn anadl ei mam — ‘pw — pw’ o hyd. 78  Ond yn sydyn o’r tywyllwch dyma rhywbeth yn neidio o’r llawr ar y gwely ac yn ôl drachefn yr un mor sydyn. 79  Cyffyrddodd eiliad â bodiau ei thraed ac yna diflannodd i’r distawrwydd. 80  Sgiatan wedi dŵad yn ôl, meddyliai Begw wrthi hi ei hun. 81  Ond er holi a holi drannoeth, ni chafodd eglurhad ar y mater, dim ond pawb yn gwneud hwyl am ei phen a gwrthod ei chredu, ‘am ei bod yn dychmygu pethau.’ 73 That night, Begw woke in her bed at some time in the middle of the long night. 74 She opened her eyes on the black blanket of darkness. 75 She couldn’t see where the window was, or the door. 76 It must be far along in the night, because the firelight wasn’t coming in through the bedroom door. 77 Begw could hear nothing but the sound of her mother’s breath, “pooh—pooh”, continually. 78 But suddenly from the darkness something was jumping from the floor onto the bed, and back again just as suddenly. 79 It touched her toes for a second and then vanished into the silence. 80 Sgiatan’s come back, Begw thought to herself. 81 But though she asked and asked next day, she didn’t get any explanation of the matter, only everyone making fun of her and refusing to believe her, “because she was imagining things”.
-aidd סופ׳‎ סופית גוזרת תואר
(yr) un אותה (אחת),
(the) same
(גוררת ריכוך)
(yr) un אותו (אחד),
(the) same
a סמן פסוקית זיקה ישירה (גורר ריכוך)
ac מ״א‎ ו־
a צורה לפני עיצור (גוררת חיכוך)
acw שם, yonder באנגלית
adeiladu [adeilad-] פ׳‎ לִבנות, להקים
adeiladwn ציווי גוף ראשון רבים
adnabod פ׳‎ להכיר
afluniaidd ש״ת‎ חסר.ת־צורה
ag מ״י‎ עִם
â צורה לפני עיצור
agor ש״ת‎ פתוח.ה
agos ש״ת‎ קרוב.ה
ai הַאִם
a צורה דיבורית
Alys ש״פ‎ אליס, אליסה, עליזה
allan ת״פ‎ החוצה
am מ״י‎ ל־, אודות, בגלל, למשך, כ־
amser ש״ע ז׳‎ זמן
an- תח׳‎ תחילית שלילית (גוררת מוטציה; בחלק מהמקרים אפית, ובחלק ריכוך)
anesboniadwy ש״ת‎ שלא ניתן להסביר אותו
anifail ש״ע ז׳‎ חיה
anturiaeth ש״ע נ׳‎ הרפתקאה
anturiaethau רבים
ar מ״י‎ על
arna’ גוף ראשון יחיד צורה דיבורית
arni גוף שלישי יחיד נקבה
arno גוף שלישי יחיד זכר
arnyn גוף שלישי רבים צורה דיבורית
ar gyfer מ״י‎ בשביל, למען
ar ôl מ״י‎ אחרי, לאחר
arall אחר.ת
arferol ש״ת‎ רגיל.ה
Arglwydd ש״פ‎ (ה)אדון, אדונָי
Arisona ש״פ‎ אריזונה
arlunydd ש״ע ז׳‎ צייר, אמן
arswydo [arswyd-] פ׳‎ להתחלחל
arswydai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
asgwrn ש״ע ז׳‎ עֶצֶם (בגוף)
esgyrn רבים
at מ״י‎ אֶל
ateb ש״ע ז׳‎ תשובה
awgrymu [awgrym-] פ׳‎ לרמוז
awyr ש״ע נ׳‎ אוויר, שמיים
awyren ש״ע נ׳‎ אווירון, מטוס
Babel ש״פ‎ בבל
bach ש״ת‎ קטן.ה
bachgen ש״ע ז׳‎ ילד
balch ש״ת‎ שמח.ה, גאה
barn ש״ע נ׳‎ דעה, משפט (שחורצים, לא בדקדוק)
bellach ת״פ‎ מעתה, מעכשיו
beth מה
beunydd ת״פ‎ יום־יום, תמיד
blino [blin-] פ׳‎ לעייף, להתעייף
blwyddyn ש״ע נ׳‎ שנה
blynyddoedd רבים
boa ש״ע ז׳‎ בואה (נחש חנק)
bod פ׳‎ להיות
bu עבר גוף שלישי יחיד
buasech פלופרפקט („עבר של עבר”) גוף שני רבים
bues עבר גוף ראשון יחיד צורה דיבורית
byddai אימפרפקט הרגלי (הביטואלי) / סוביונקטיבי גוף שלישי יחיד
bydded ציווי גוף שלישי יחיד
byddwch עתיד / הווה הרגלי גוף שני רבים
byddwn אימפרפקט הרגלי (הביטואלי) / סוביונקטיבי גוף ראשון יחיד
mae הווה גוף שלישי יחיד יש
maen הווה גוף שלישי רבים צורה דיבורית ישנן/ם
maent הווה גוף שלישי רבים ישנן/ם
oedd אימפרפקט גוף שלישי יחיד
oedden אימפרפקט גוף שלישי רבים צורה דיבורית
oeddwn אימפרפקט גוף ראשון יחיד
oes הווה גוף שלישי יחיד צורה תלויה יש (מציין קיום)
sy הווה גוף שלישי יחיד של פסוקית זיקה צורה לפני עיצור
tai אימפרפקט סוביונקטיב גוף שלישי יחיד (צורה שמתחברת עם pe-‎)
wy הווה גוף ראשון יחיד
ydw הווה גוף ראשון יחיד
ydy הווה גוף שלישי יחיד
ydych הווה גוף שני רבים
ydyn הווה גוף ראשון רבים
yw הווה גוף שלישי יחיד (משמש במעמדים תחביריים מסויימים)
bodlon ש״ת‎ מרוצה
bore ש״ע ז׳‎ בוקר (בֹּקֶר)
brân ש״ע נ׳‎ עורב
brolio פ׳‎ להתרברב
broliai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
bron ת״פ‎ כִּמעט
brych ש״ת ז׳‎ מנוקד
brech נקבה
bryd ש״ע ז׳‎ מחשבה, רצון, לב
budd ש״ע ז׳‎ רווח, תועלת
bwriadu [bwriad-] פ׳‎ להתכוון, לתכנן
bwriadant הווה גוף שלישי רבים
bwyd ש״ע ז׳‎ מזון
bychan ש״ת ז׳‎ קטן, קטנטן
byd ש״ע ז׳‎ עולם, חיים
byr ש״ת ז׳‎ קָצָר
ber נקבה
byth ת״פ‎ לעולם, תמיד, אף פעם
byw פ׳‎ לחיות
byw ש״ת‎ חי.ה
bywyd ש״ע ז׳‎ חיים
cadair ש״ע נ׳‎ כסא
cadw [cadw-] פ׳‎ לשמור
cael פ׳‎ להשיג, לקבל, … (יש דמיון מבני ל־get באנגלית, ברמה מסויימת)
cafodd עבר גוף שלישי יחיד
calch ש״ע ז׳‎ סִיד, גִּיר, קִרְטוֹן
caled ש״ת‎ קשה
campwaith ש״ע ז׳‎ יצירת־מופת
canu [can-] פ׳‎ לשיר
canai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
cario פ׳‎ לשאת, לסחוב
cariodd עבר גוף שלישי יחיד
carreg ש״ע נ׳‎ אבן
cerrig רבים
cath ש״ע נ׳‎ חתול
cau ש״ת‎ סגור.ה
ceisio פ׳‎ לנסות
ceisiodd עבר גוף שלישי יחיד
cerdyn ש״ע ז׳‎ כרטיס, קלף
cardiau רבים
cilydd כ׳/ש״ע‎ רֵעַ (השימוש העיקרי הוא עם כינוי שייכות בצורה המרוככת הקפואה gilydd כסמן הדדיות (reciprocal construction) „אחת/ד עם/את/על/… השני.ה”. שימו לב לצורות! בוולשית בת ימינו משמשות שלוש צורות: ein gilydd להדדיות בגוף ראשון (כמו ב„ביננו ובין עצמנו”), eich gilydd להדדיות בגוף שני רבים (כמו ב„בינכן/ם ובין עצמכן/ם”) ו־ei gilydd להדדיות בגוף שלישי (כמו ב„בינן/ם ובין עצמן/ם”). הגוף השלישי נראה על פניו כמו שיוך של זכר יחיד אבל הוא משמש בכל המינים.)
cnoi פ׳‎ ללעוס
codi פ׳‎ לקום, להקים, לעלות, להעלות, לגדל (ילדים), …
cododd עבר גוף שלישי יחיד
colli פ׳‎ לאבד
copi ש״ע ז׳‎ העתק
crasu [cras-] פ׳‎ לאפות, לייבש
credu [cred-] פ׳‎ להאמין
creu [cre-] פ׳‎ ליצור
creodd עבר גוף שלישי יחיד
cryf ש״ת ז׳‎ חזק
cref נקבה
cwbl ת״פ‎ די, לגמרי
cwmni ש״ע ז׳‎ חברה (גם במשמעות של חברה מסחרית)
cwrdd פ׳‎ להפגש
cyfan ש״ת‎ שלם
cyfarfod פ׳‎ להפגש
cyfarwyddwr ש״ע ז׳‎ מנהל, דִּירֶקְטוֹר
cyfrinach ש״ע נ׳‎ סוד
cyngori [cynghor-] פ׳‎ לייעץ
cynghorodd עבר גוף שלישי יחיד
cymaint ש״ע‎ אותו הגודל, אותה הכמות
cymryd [cymer-] פ׳‎ לקחת
cymerai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
cymryd ar- ביטוי להעמיד פנים
cymydog ש״ע ז׳‎ שָׁכֵן
cymdogion רבים
cymylog ש״ת‎ מעונן.ת
cymysgu [cymysg-] פ׳‎ לערבב, להתערבב
cymysgodd עבר גוף שלישי יחיד
cyn bo hir ת״פ‎ בקרוב (מיל׳: לפני שיארך (הזמן))
cynhyrchu [cynhyrch-] פ׳‎ לייצר
cynnar ש״ת‎ מוקדם.ת
cyntaf דרגת ההפלגה ראשון, המוקדם ביותר
cysgu פ׳‎ לישון
chi כ׳‎ אתם/ן, את/ה (בפניה מכובדת)
chwaer ש״ע נ׳‎ אחות
chwarae פ׳‎ לשחק
chwech ש״מ‎ שש, ששה
chwe (צורה בספריה)
chwifio [chwifi-] פ׳‎ לנענע, לנופף
chwilio פ׳‎ לחפש
da ש״ת‎ טוב.ה
gorau דרגת ההפלגה
gwell דרגת היתרון
daear ש״ע נ׳‎ אדמה, קרקע
daearyddiaeth ש״ע נ׳‎ גיאוגרפיה
dangos [dangos-] פ׳‎ להראות
dangosais עבר גוף ראשון יחיד
darganfod פ׳‎ לגלות
darlun ש״ע ז׳‎ ציור, תמונה
darluniau רבים
darlunio [darluni-] פ׳‎ לצייר
dau ש״מ ז׳‎ שניים (אחרי ידוע מתרכך ל־ddau, באופן חריג)
de ש״ע‎ ימין, דרום
deall [deall-] פ׳‎ להבין
deallus ש״ת‎ מבין.ה
dechrau פ׳‎ להתחיל
dechreuad ש״ע ז׳‎ התחלה
defnyddiol ש״ת‎ שימושי.ת
deffro [deffro-] פ׳‎ להעיר, להתעורר
deffrodd עבר גוף שלישי יחיד
dewis פ׳‎ לבחור
diddorol ש״ת‎ מעניין.ת
digon מספיק, די
digwydd [digwydd-] פ׳‎ לקרות, להתרחש
dim שום, כלום, משהו, ציין שלילה / חיזוק שלילה (השו׳ pas בצרפתית)
dim byd שום דבר, שום כלום
dinas ש״ע נ׳‎ עיר
diod ש״ע נ׳‎ משקה, שתיה
dioddef [dioddef-] פ׳‎ לסבול, לשאת (משהו רע)
diogel ש״ת‎ בטוח.ה
diolch תודה
disglair ש״ת‎ זוהר.ת, מזהיר.ה
disgwyl פ׳‎ לצפות
disgyn פ׳‎ לרדת
disgynnodd עבר גוף שלישי יחיד
disgynnwn ציווי גוף ראשון רבים
diwedd ש״ע ז׳‎ סוף
dod פ׳‎ לבוא
daeth עבר גוף שלישי יחיד
dewch ציווי גוף שני רבים
draw (ש)שם, רחוק
dril ש״ע ז׳‎ מקדחה
driliau רבים
dros מ״י‎ מעל, על פני־, מעבר ל־, בשביל
du ש״ת‎ שחור.ה
Duw פ׳‎ אלוהים (באות גדולה: האלוהים היהודי־נוצרי)
dweud פ׳‎ להגיד, לומר
dywedai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
dywedasant עבר גוף שלישי רבים
dywedodd עבר גוף שלישי יחיד
dŵr ש״ע ז׳‎ מים
dwfr (צורה ארכאית)
dyfroedd רבים
dwyrain ש״ע ז׳‎ מזרח
dwywaith פעמיים, כפליים
dychryn [dychryn-] פ׳‎ להפחיד
dydd ש״ע ז׳‎ יום
dyfnder ש״ע ז׳‎ תהום
dylu פ׳‎ להיות צריך
dylai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
dyma הִנֵּה (קרוב)
dyn ש״ע ז׳‎ איש
dyna הִנֵּה (רחוק)
dynes ש״ע נ׳‎ אשה
dysgu [dysg-] פ׳‎ ללמוד
dysgais עבר גוף ראשון יחיד
e כ׳‎ הוא
ebe אמר.ה
ei כ׳‎ שלה (גוררת חיכוך)
’i צורה תלויה
’w (צורה אחרי מילת־היחס i)
ei כ׳‎ שלו (גוררת ריכוך)
’i צורה תלויה
’w (צורה אחרי מילת־היחס i)
eich כ׳‎ שלכן/ם, שלך (בפניה מכובדת)
ein כ׳‎ שלנו
eisiau רצון, חוסר, צורך (משמש במבנים תחביריים שנדון בהם בכיתה)
eistedd פ׳‎ לשבת
eliffant ש״ע ז׳‎ פִּיל
enw ש״ע‎ שֵׁם
er מ״י‎ למרות, מ־ (זמן)
er mwyn מ״י‎ בשביל, למען, לְשֵׁם
erioed ת״פ‎ מעולם, לעולם
ers מ״י‎ מזה (זמן)
esbonio [esboni-] פ׳‎ להסביר, להעיר
eto שוב, שנית, עוד פעם
eu כ׳‎ שלהם
’u צורה אחרי תנועה
’w (צורה אחרי מילת־היחס i)
fe (סמן דקדוקי לפני פועל. נדון בו בשיעור)
fel מ״י‎ כ־, בתור
felly ת״פ‎ כך, אם כן
felly ש״ת‎ כזו, כזה
fi כ׳‎ אני
fy כ׳‎ שלי
ffasiwn ש״ע נ׳‎ דרך, אופן, אופנה
ffenestr ש״ע נ׳‎ חלון
ffenest סיפא מושמטת
ffordd ש״ע נ׳‎ דרך
fforest ש״ע נ׳‎ יער
fforestydd רבים
gadael פ׳‎ להשאיר, לעזוב
galw [galw-] פ׳‎ לקרוא (במובן call, לא במובן read), לתת שם, להתקשר (בטלפון)
galwodd עבר גוף שלישי יחיד
gelwir הווה ללא גוף
gallu פ׳‎ להיות יכול.ה
gall הווה גוף שלישי יחיד
gallaf הווה גוף ראשון יחיד
gallai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
gallwn אימפרפקט גוף ראשון יחיד
gan מ״י‎ עִם, לצד, ל־, על ידי, בגלל, …
ganddi גוף שלישי יחיד נקבה
ganddo גוף שלישי יחיד זכר
ganddyn גוף שלישי רבים צורה דיבורית
ganddynt גוף שלישי רבים
gen i גוף ראשון יחיד
gardd ש״ע נ׳‎ גַּן
godidog ש״ת‎ מעולה
gofyn [gofynn-] פ׳‎ לשאול, לבקש, לדרוש (ערכיות: שואלים i מישהו; מבקשים am משהו)
gofynnodd עבר גוף שלישי יחיד
gofyn ש״ע ז׳‎ צורך, דרישה
goleuni ש״ע ז׳‎ אוֹר
golff ש״ע ז׳‎ גולף
golwg ש״ע זו״נ‎ מבט, חזות, ראִיה
gollwng פ׳‎ לשמוט, לעזוב
gorfod פ׳‎ להיות מוכרח.ה
gramadeg ש״ע ז׳‎ דקדוק
gwaelod ש״ע ז׳‎ תחתית
gwag ש״ת‎ ריק.ה
gwahaniaethu [gwahaniaeth-] פ׳‎ להבחין, להבדיל
gwahanu [gwahan-] פ׳‎ להפריד, להבדיל, לחלק
gwahanodd עבר גוף שלישי יחיד
gwaith ש״ע ז׳‎ עבודה
gwallgof ש״ת‎ מטורף.ת
gwallt ש״ע ז׳‎ שֵׂיער
gwasgaru פ׳‎ לפזר, להתפזר
gwasgarodd עבר גוף שלישי יחיד
gwastadedd ש״ע ז׳‎ מישור, תחתית של בקעה
gwddf ש״ע ז׳‎ צוואר
gweld פ׳‎ לראות
gwelais עבר גוף ראשון יחיד
gweled (צורה ארכאית)
gwelodd עבר גוף שלישי יחיד
gwella פ׳‎ לשפר
gwên ש״ע נ׳‎ חיוך
gwir ש״ת‎ אמיתי.ת
gwir ש״ע ז׳‎ אמת
gwirionedd ש״ע ז׳‎ אמת
gwlad ש״ע נ׳‎ ארץ
gwleidyddiaeth ש״ע נ׳‎ פוליטיקה, מדע המדינה
gwneud פ׳‎ לעשות
gwnaf הווה גוף ראשון יחיד
gwnawn ציווי גוף ראשון רבים
gŵr ש״ע ז׳‎ איש (גם במובן של יחס משפחתי)
gwybod פ׳‎ לדעת (שימו לב לנטיה עם ‎-bod)
gwyddent אימפרפקט גוף שלישי רבים
gwyddoch הווה גוף שני רבים
gwyllt ש״ת‎ פראי.ת
gwynt ש״ע ז׳‎ רוח, משב־רוח
gwyryfol ש״ת‎ בתולי.ת
gyrfa ש״ע נ׳‎ מסלול, קריירה
handi ש״ת‎ שימושי
hanes ש״ע ז׳‎ היסטוריה, סיפור
hanesion רבים
heb מ״י‎ בלי, ללא
Hebraeg ש״פ‎ עברית
hedfan [hedfan-] פ׳‎ לטוס, להטיס, לרחף
hefyd גם, בנוסף
heibio מ״י‎ על פנֵי
help ש״ע ז׳‎ עזרה
het ש״ע נ׳‎ כובע
hetiwr ש״ע ז׳‎ כובען
hi כ׳‎ היא
hir ש״ת‎ ארוך.ה
holl (ה)כל
hwn כ׳‎ הזה
hwnnw כ׳‎ ההוא
hwy כ׳‎ הן/ם
hwyr ש״ע ז׳‎ עֶרֶב
hyn כ׳‎ זה
hynny כ׳‎ ההוא (סתמי)
hynod ש״ת‎ יוצא מן הכלל, בלתי רגיל, מוזר
i מ״י‎ ל־, אל, לְשֵׁם (לפני אינפיניטיב)
ichi גוף שני רבים
iddo גוף שלישי יחיד
iddyn גוף שלישי רבים צורה דיבורית
iddynt גוף שלישי רבים
imi גוף ראשון יחיד
inni גוף ראשון רבים
i כ׳‎ אני
i gyd ת״פ‎ כול־, לגמרי
i lawr ת״פ‎ למטה
i mewn ת״פ‎ פנימה
iaith ש״ע נ׳‎ שפה, לשון
iawn ת״פ‎ מאוד, לגמרי, כהוגן, היטב
jyngl ש״ע ז׳‎ ג׳ונגל
lefel ש״ע נ׳‎ רמה
llall כ׳‎ אַחֵר, שני
llawer ת״פ‎ הרבה, רבות
llawer ש״ע ז׳‎ הרבה
lle ש״ע ז׳‎ מקום
yn lle בִּמְקוֹם
lle מ״א‎ איפה ש־
lliw ש״ע ז׳‎ צבע, גוון
llun ש״ע ז׳‎ תמונה, ציור
llusgo [llusg-] פ׳‎ לגרור
llwyd ש״ת‎ אפור.ה, חום.ה, דהוי.ה
llwyddo [llwydd-] פ׳‎ להצליח
llwyddais עבר גוף ראשון יחיד
llyfr ש״ע ז׳‎ סֵפֶר
llyncu פ׳‎ לבלוע
mab ש״ע ז׳‎ בן
maint ש״ע ז׳‎ גודל, כמות
mân ש״ת‎ קטן.ה, זעיר.ה
mathemateg ש״ע נ׳‎ מתמטיקה
mawr ש״ת‎ גדול.ה
Mawrth ש״ע ז׳‎ מֶרְץ, יום שלישי
medru פ׳‎ להיות יכול (לעשות משהו), לדעת (שפה, כישור, וכד׳)
medren אימפרפקט גוף שלישי רבים צורה דיבורית
medrwch הווה גוף שני רבים
meddai אמר.ה
meddwl פ׳‎ לחשוב
melyn ש״ת‎ צהוב
methiant ש״ע ז׳‎ כשלון
methu פ׳‎ לא להצליח, להכשל
mewn מ״י‎ ב־ (גם בזמן וגם במרחב; עם צירוף בלתי מיודע)
mi (סמן דקדוקי לפני פועל. נדון בו בשיעור)
minnau כ׳‎ אני (nota augens)
mis ש״ע ז׳‎ חודש
mor כל כך
mwstash ש״ע זו״נ‎ שפם
mwy יותר
mwyaf הכי (סמן תחבירי של דרגת ההפלגה)
mynd פ׳‎ ללכת (נטיה לא רגילה)
aeth עבר גוף שלישי יחיד
ewch גוף שני רבים ציווי
nac ולא (nor)
nad שלא
nag מאשר, מ־ (במבנים של השוואה)
na צורה לפני עיצור (גם לפני ‎’i)
naill כ׳‎ זה, (ה)אחד (מבין שניים או יותר)
neb כ׳‎ אף אחד, מישהו
nefoedd ש״ע ר׳‎ שמיים, רקיעים (מורפולוגית זו צורת הרבים של nef „שמיים, רקיע”, אבל יש לה עצמאות)
neidr ש״ע נ׳‎ נחש
nadredd רבים
nerth ש״ע ז׳‎ כח, עוצמה
nerth esgyrn ei ben ביטוי בכל כוחו
nes עד
neu מ״א‎ או (באופן רגיל גוררת ריכוך)
nhw כ׳‎ הם (צורה דיבורית)
ni כ׳‎ אנחנו
nid לא (שולל פועל (מלבד בתשובה ובציווי אימפרסונלי); גורר מוטציה מעורבת)
d- צורה מקוצרת
ni
צורה לפני עיצור ולפני g-‎ שנפל במוטציה
nid לא (שולל רכיבים שאינם פועל; לא גורר מוטציה; ה־d מופיעה גם לפני עיצורים (בניגוד ל־nid ששולל פעלים)‏)
nifer ש״ע זו״נ‎ מִסְפָּר
normal ש״ת‎ נורמלי.ת
nos ש״ע נ׳‎ לילה
o מ״ק‎ הוֹ, אה
o מ״י‎ מ־, של
ohonyn גוף שלישי רבים צורה דיבורית
o hyd ת״פ‎ עדיין, תמיד
oddi מ״י‎ מ־, מתוך
oddi wrth מ״י‎ מ־, מֵעִם
oed ש״ע ז׳‎ גיל, תקופה
oedolion ש׳ קיב׳‎ מבוגרים/ות
oedolyn פריטה (זכר)
ofn ש״ע ז׳‎ פַּחַד
oherwydd מ״א‎ בגלל (ש־)
ond מ״א‎ אֲבָל
ond אֶלָּא, מלבד
pa איזה? מה? (גוררת ריכוך)
pam למה?
pan מ״א‎ כש־, כאשר
pawb כ׳‎ כולן/ם
pawen ש״ע נ׳‎ כפה, כף
pe לוּ
pedwar ש״מ ז׳‎ ארבע
peidio [peidi] פ׳‎ להפסיק, להמנע (עם â/ag ואינפיניטיב — צורן שלילה, כולל שלילת ציווי)
peidiasant עבר גוף שלישי רבים
pen ש״ע ז׳‎ ראש
pensil ש״ע ז׳‎ עפרון
pentwr ש״ע ז׳‎ ערימה
peth ש״ע ז׳‎ דבר, משהו
pethau רבים
pig ש״ע נ׳‎ מקור (של ציפור), חוד
piser ש״ע ז׳‎ כד, קנקן
plant ש׳ קיב׳‎ ילדים
plentyn פריטה (זכר)
plith ש״ע ז׳‎ קֶרֶב, בֵין־
pob כל
pob yn un אחת־אחת, אחד־אחד
pobl ש״ע נ׳‎ אנשים, עַם
pobol (צורה דיבורית)
pobman ש״ע ז׳‎ כל מקום
popeth כל דבר, הכל
posibl ש״ת‎ אפשרי.ת
posib צורה דיבורית
prawf ש״ע ז׳‎ בדיקה, נסיון, הוכחה
priddfaen ש״ע ז׳‎ לבנה
priddfeini רבים
pwysig ש״ת‎ חשוב.ה
pyg ש״ע ז׳‎ חֵמָר; ביטומן, אספלט
rwdlmi-lol שטויות במיץ
rhag מ״י‎ מפני־, שמא, פן
rhaid צורך, חובה
rhan ש״ע נ׳‎ חלק
rhedeg פ׳‎ לרוץ, לזרום
rheswm ש״ע ז׳‎ סיבה
rhesymol ש״ת‎ הגיוני.ת, רציונלי.ת
rhif ש״ע ז׳‎ מִסְפָּר
rhoi [rho-, rhodd-] פ׳‎ לתת
rhoddodd עבר גוף שלישי יחיד
rhoi’r gorau (i) ביטוי לוותר (על)
rhois עבר גוף ראשון יחיד
rhwng מ״י‎ בין
rhwystro [rhwystr-] פ׳‎ למנוע, לעכב
rhwystrir הווה ללא גוף
rhy יותר מדי
rhyfedd ש״ת‎ מוזר.ה
rhyw gymaint מידה כלשהי, איזושהי דרגה
rhyw lawer הרבה (בדרך כלל במבנה שלילי („לא הרבה”))
rhywbeth כ׳‎ משהו
rhywun ש״ע ז׳‎ מישהו/י
sbecian [sbeci-] פ׳‎ להציץ
sêr ש׳ קיב׳‎ כוכבים
sgrechian [sgrechi-] פ׳‎ לצרוח, לצווח
sgwarnog ש״ע נ׳‎ ארנבת, hare באנגלית
sgwrsio [sgwrsi-] פ׳‎ לדבר, לשוחח
sgwrsiai אימפרפקט גוף שלישי יחיד
siarad [siarad-] פ׳‎ לדבר, לשוחח
Sinar ש״פ‎ שִׁנְעָר
siomi [siom-] פ׳‎ לבייש, להביך, להשפיל
stori ש״ע נ׳‎ סיפור
stryd ש״ע נ׳‎ רחוב
sut איך
sylwi [sylw-] פ׳‎ להבחין, לשים לב
sylwodd עבר גוף שלישי יחיד
symud פ׳‎ לזוז
taflu פ׳‎ להשליך, לזרוק
tamp ש״ת‎ לח.ה
tan (dan) מ״י‎ תחת, מתחת
tebyg ש״ת‎ דומה
tei ש״ע זו״נ‎ עניבה
teis רבים
tenau ש״ת‎ דק.ה, רזה
teulu ש״ע ז׳‎ משפחה
tipyn ש״ע ז׳‎ קצת, מעט, טיפה
torri פ׳‎ לשבור
treulio פ׳‎ לבלות, לעכל
trigo פ׳‎ לשכון, להשאר
tro ש״ע ז׳‎ סיבוב, תור, פעם
trwm ש״ת ז׳‎ כבד
Tseina ש״פ‎ סין
tu allan ש״ע ז׳‎ הצד החיצוני, בחוץ
tu mewn ש״ע ז׳‎ חלק פנימי, צד פנימי
tŵr ש״ע ז׳‎ מִגדל
ש״ע ז׳‎ בית
tai רבים
tylluan ש״ע נ׳‎ ינשוף
tylluan frech (לילית מצויה; ר׳ ערך בוויקיפדיה בוולשית ובעברית)
tynnu פ׳‎ למשוך
tynnais עבר גוף ראשון יחיד
tynnu llun/darlun ביטוי לצייר, לצלם
tywyllwch ש״ע ז׳‎ חושך
uchel ש״ת‎ גבוה.ה
un ש״מ נ׳‎ אחת (גוררת ריכוך חלקי)
un ש״מ ז׳‎ אחד (לא גוררת ריכוך)
(yr) un o’r ddau ביטוי אף אחד מהשניים
unwaith פעם אחת
wal, (gwal) ש״ע נ׳‎ קיר, גדר, חומה
waliau, (gwaliau) רבים
wedi מ״י‎ אחרי (בזמן) (באה בדרך כלל עם אינפיניטיב במבנה קונוורביאלי שמסמן פרפקטיות)
wedyn ת״פ‎ אחר כך
wel מ״ק‎ טוב! יפה! well!
wrth מ״י‎ עִם, אצל
wyneb ש״ע ז׳‎ פָּנִים
ychydig ש״ע ז׳‎ קצת, מעט
yfed [yf-] פ׳‎ לשתות
yfodd עבר גוף שלישי יחיד
yma (ל)כאן, (עכשיו)
ymadrodd ש״ע ז׳‎ ביטוי, דיבור
ymdeithio [ymdeithi-] פ׳‎ לנסוע, לטייל, לצעוד
ymddangos [ymddangos-] פ׳‎ להִראות
ymestyn [ymestyn-] פ׳‎ להתמתח
ymhen מ״י‎ תוך, אחרי
ymlaen ת״פ‎ קדימה, ואילך
ymsymud פ׳‎ לזוז, לנוע, להתנועע
ymweld פ׳‎ לבקר (ביקור)
yn מ״י‎ ב־ (מילת־יחס בקונוורב; לא גוררת מוטציה)
’n צורה אחרי תנועה
yn מ״י‎ סמן של מעמד רימטי לצירוף שמני (גורר ריכוך חלקי)
’n צורה אחרי תנועה
yn מ״י‎ ב־ (גם בזמן וגם במרחב; עם צירוף מיודע) (גוררת מוטציה אפית)
yng צורה לפני עיצור וילוני
ym צורה לפני עיצור דו־שפתי
yn מ״י‎ סמן של מעמד אדוורביאלי של שם תואר (גורר ריכוך חלקי)
’n צורה אחרי תנועה
yn hytrach ת״פ‎ בִּמקום זאת
yn ystod ת״פ‎ במהלך
yna (לְ)שָׁם, אז
’na צורה אופציונלית אחרי תנועה
yno שָׁם
yr ה־
’r צורה אחרי תנועה
y צורה לפני עיצור
yr (סמן שבא עם חלק מהצורות של bod)
r- צורה דבוקה
y צורה לפני עיצור
yr ש־ (ממיר פסוקית למעמד שמני)
y צורה לפני עיצור
yr סמן פסוקית זיקה עקיפה
y צורה לפני עיצור
ysbryd ש״ע ז׳‎ רוח (במובן העל־טבעי)
ysglyfaeth ש״ע נ׳‎ טֶרֶף