הערות לסיפור Gofid

זהו דף מהאתר מילים דיגיטליות.
חזרה אל: קורס וולשית באוניברסיטה העברית.
תאריך פרסום: 12020-05-24 (HE)
עדכון אחרון: 12020-11-11
תצוגה: 
  • 🦉 💡
  • 📖 🎨
באיזו לשון להשתמש?
את / אתה / באקראי
תוכן עניינים:

הסיפור Gofid „יגון” מאת קייט רוברטס הוא הסיפור הראשון שאנחנו קוראים בלי עזרה של גלוסר. לדעתי הוא מאוד מעניין הן מבחינה לשונית, הן מבחינה תוכנית והן מבחינת החיבור של השניים: השימוש שהמחברת עושה בארגז הכלים הלשוני של הוולשית כדי לספר את הסיפור. את הטקסט הרץ, כולל הקלטה ותרגום לאנגלית, תוכלו למצוא במקראה.

בדף הזה מרוכזות הערותמבחינה צורנית הדף משתמש בטכניקה דומה לזו שנעשית בסידור (typesetting) הספרות הפרשנית של טקסטים יהודיים: הצגת הטקסט המקורי ולצדו הערות שמתייחסות אליו תוך ציטוט הסינטגמות הרלוונטיות. הנוגעות להיבטים הלשוניים של הסיפור. לא כולם זוכים להתייחסות — רחוק מכך! — ולא כל הנושאים זוכים להתייחסות שווה במשקלה, אבל כל הנקודות כאן הן כאלה שאני רואה בהן ערך.

כדי לסייע בהתמצאות, הנושאים השונים מסומנים באימוג׳ים לפי המפתח הזה:

🌳
אטימולוגיה
💬
בלשנות כללית והשוואתית
📖
דקדוק הטקסט והיבטים ספרותיים
כלים פרקטיים

דקדוק וולשי לא מסומן.

1. רקע

1Eisteddai Begw ar stôl o flaen y tân, a’i chefn, i’r neb a edrychai arno, yn dangos holl drychineb y bore.

2Cyffyrddai ymylon ei siôl dair onglog â’r llawr, a’r llawr yn llawn o byllau mân yn disgyn oddi wrth facsiau eira ag ôl pedolau clocsiau ynddynt.

3Heddiw, yn wahanol i arfer, yr oedd ei gwallt yn flêr, a hongiai’n gynhinion di-drefn ar ei hysgwydd.

4Am ryw reswm na wyddai Begw, ni phlethasai ei mam ei gwallt neithiwr.

5Yr oedd hynny’n beth braf, oblegid byddai ei mam yn tynnu ei gwallt bron o’r gwraidd wrth ei blethu, gyda holl wydnwch ei breichiau a holl rym y dymer y byddai ynddi.

6Byddai ei phen yn ysu am oriau ar ôl y driniaeth, ond byddai’n braf yn y bore, ar ôl datod y plethi, gael teimlo’r trwch tonnog yn disgyn heibio i’w chlustiau ac ar ei gwddf.

7Chwythai’r gwynt oer o dan y drysau gan chwythu rhidens y siôl a mynd dan ei thrywsus pais, ond âi gwres y tân at ei phen.

2. היום הנורא והיום־השונה־מהרגיל

8O fewn pedair blynedd ei phrofiad ar y ddaear dyma’r diwrnod mwyaf digalon a gawsai Begw erioed — diwrnod du, diobaith er bod pob man yn wyn.

9Cronnai ei hanadl wrth geisio dal ei hocheneidiau’n ôl.

10Yr oedd arni ofn cael drwg gan ei mam, fel y câi bob amser am ddal i grio.

11Ond daeth llais ei mam yn fwynach nag arfer y tro hwn.

12‘Dyna chdi rŵan.

13Waeth befo hi.

14Dim ond cath oedd hi.

15Beth tasat ti wedi colli dy fam?’

16Torrodd yr argae wedyn.

17Ar y funud buasai’n well ganddi hi golli ei mam na cholli Sgiatan.

18Yr oedd Sgiatan yn ffeind bob amser a’i mam ddim ond ambell dro.

19Daeth yr hyn a welsai hanner awr yn gynt i’w meddwl yn ei holl fanylion a’i gorchfygu eto.

20Wrth godi’r bore hwnnw, edrychasai Begw ymlaen at ddiwrnod-gwahanol-i-arfer, am fod yr eira mawr hyd y ddaear, un o’r dyddiau hynny pan gâi dynnu’r llyfr â’r lluniau ofnadwy a’i roi ar y setl, un o’r dyddiau pan gâi wisgo ei hesgidiau gorau, diwrnod tebyg i’r un pan gafodd wlanen a saim gŵydd am ei gwddf a chael brechdan grasu â dŵr a siwgr a sunsur arni, un o’r dyddiau pan eisteddai ei mam wrth y tân i adrodd stori wrthi.

21Paratoad i’r diwrnod-gwahanol-i-arfer oedd peidio â chael plethu ei gwallt y noson gynt.

22Parhad o hyn oedd cael gwisgo amdani cyn ei ’molchi a tharo siôl drosti.

3. תחילת הבוקר

23Pan gododd, nid oedd Sgiatan o gwmpas yn unlle, ac er gweiddi ‘Pws, Pws’, ni ddaeth o unman.

24Toc, mentrodd agor y drws cefn a dyna lle’r oedd Sgiatan — nid ar garreg y drws yn codi ei chynffon ac yn barod i’w rhwbio ei hun yn ei choesau, ond yn gorwedd mewn crwc o ddŵr, ei phedair coes wedi ymestyn allan fel y byddent weithiau ar fatyn yr aelwyd, ond ei dannedd yn ysgyrnygu fel yr hen anifail hyll hwnnw yn y ‘Drysorfa’r Plant’, a’i blew, ei blew melfed, fel hen falwen seimllyd ar lwybr yr ardd, â’i llygaid mor llonydd a rhythlyd â llygaid gwydr ei dol.

25Ni allai gredu ei bod yn bosibl i Sgiatan, a ganai’r grwndi efo hi cyn iddi fynd i’r gwely neithiwr a wincio arni oddi ar y stôl haearn, fod wedi —.

26Ni allai ddweud y gair.

27Yr oedd yn rhy ofnadwy.

28Ie, ond wedi marw yr oedd, nid oedd yn rhaid i neb ddweud wrthi mai dyma beth oedd marw.

29Yr oedd hi fel y llygoden a aeth i’r trap.

30‘Cau’r drws yna, a thyrd i’r tŷ, mae hi’n oer.’

31Ei mam yn galw arni, ond sut yr oedd yn bosibl dyfod i’r tŷ.

32Llygad-dynnid hi at y corff marw.

33Yr oedd arni ei ofn ac yr oedd arni eisiau rhedeg oddi wrtho, ond hoelid hi wrth y ddaear i edrych arno.

34Tywynnai’r haul yn danbaid ar wynder yr eira, a disgynnai’r dafnau parhaus oddi ar y bondo ar ei phen.

35Yr oedd mwclis gwydr yr eira yn estyn crafangau hir allan i dynnu’r dŵr o’i llygaid a’i llygaid bron â mynd ar ôl y dagrau.

36Ond ni fedrai symud.

37Pan ddaeth llais ei mam yr eildro, caeodd y drws a thu ôl i’w dywyllwch y teimlodd bang gyntaf y cau drysau a fu yn ei bywyd wedyn.

38Ei bwriad cyntaf oedd mynd yn ôl i’w gwely er mwyn cael crio’n iawn a rhoi ei phen o dan y dillad.

39Pe rhoddai ei phen o dan y dillad a chau ei llygaid, byddai yno dywyllwch a dim byd ac ni fedrai weld Sgiatan yn ysgyrnygu ei dannedd.

40‘’D wyt ti ddim i fynd i’r siamber yna yn dy glocsiau.’

41O, diar, yr oedd bywyd yn galed.

42‘’D wyt ti ddim i wneud hyn, ’dwyt ti ddim i wneud y llall.’

43A dim Sgiatan i rwbio’i phen yn ei choesau.

44Aeth at y tân o lech i lwyn, eistedd ar y stôl a beichio crio.

45‘Taw â chlegar,’ oddi wrth ei thad.

46Clegar — clegar — hen air hyll.

47Ei thad yn defnyddio hen air fel yna a Sgiatan wedi — wedi — marw!

48Cododd i nôl ei doli bren a lapiodd ei siôl amdani.

49Criodd gymaint am ei phen nes y rhedodd y paent ac i’w cheg.

50Ceisiai ei swatio yn ei chesail, ond sut oedd modd magu hen beth caled felly ar ôl magu peth mor esmwyth â Sgiatan a edrychai mor ddigri â’i phen allan o’r siôl?

51Wrth gofio hynny wedyn, taflodd y ddol i lygad y tân.

52Buasai wrth ei bodd yn ei gweld yn fflamio — y ddol yn cael mynd i’r “tân mawr” ac nid Begw — y hi a’i hen wyneb paent, hyll.

53Cipiodd ei mam hi o’r fflamau ond nid cyn rhoi clustan iawn i’w merch.

54Aeth y crio’n sgrechian.

55‘Wel, wir, ’d wn i ddim beth wna i efo’r plentyn yma.’

56‘Eisiau chwip din iawn sydd arni,’ meddai ei thad.

57‘Mi allasach chitha feddwl ddwywaith cyn boddi’r gath.

58’D wn i ddim beth ydi rhyw ysfa rhoi cath mewn bwced sydd ynoch chi o hyd, cyn gynted ag y gwnaiff hi rywbeth.’

4. החוץ

59Felly ei thad a wnaeth.

60Cododd Begw ac aeth i ben y soffa ac edrych allan.

61Yr oedd y ddaear i gyd yn fwclis, a’r coed yn estyn bysedd hirion, gwynion tuag atynt.

62Swatiai’r ieir yng nghornel yr ardd â’u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i’w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer.

63Yr oedd hen Jac Do mawr du yn pigo asgwrn yn yr eira a lot o adar gwynion fel gwyddau ymhobman.

64Ar hyd pen y clawdd yr oedd cris-croes ôl traed yr ieir.

65Rhedai ei llygaid ar ôl yr eira yn bell bell.

66Yr oedd fel crempog fawr a lot o dyllau ynddi a chyllell ddur las rhyngddi a Sir Fôn.

67Ond yr oedd ei phen yn troi wrth edrych arni ac yr oedd ei llygaid am ddyfod allan o’i phen o hyd.

68Dechreuodd y grempog godi rownd ei hymyl a chychwyn tuag ati.

69Syrthiodd Begw ac ni wyddai ddim wedyn ond ei bod ar lin ei mam, ei phen yn gorwedd ar wlanen arw ei bodis, a’r gadair yn siglo ôl a blaen, blaen ac ôl.

70Agorodd Begw fotymau’r bodis, a rhoes ei llaw oer ar fron gynnes ei mam.

71Gyda chil ei llygad gallai weled ei thad ac wrth ei gysylltu â’i gofid caeodd ei llygaid yn sydyn, a thoc aeth i gysgu.

72Gwenai’r hen ddoli nain drwy ei sbectol o’r cwpwrdd gwydr ar y tri, daliai’r llong ar ben y cloc i daro ei gwegil yn y môr ar un ochr ac i foesymgrymu i’r môr yr ochr arall, ac edrychai’r pregethwr yn sarrug iawn o’i ffrâm ar y pared.

5. החלום

73Y noson honno, deffroes Begw yn ei gwely rywdro yng nghanol y nos fawr.

74Agorodd ei llygaid ar y blanced ddu o dywyllwch.

75Ni allai ddweud ym mha le’r oedd y ffenestr na’r drws.

76Rhaid ei bod ymhell ar y nos, oblegid ni ddeuai golau’r tân i mewn drwy ddrws y siamber.

77Ni chlywai Begw ddim ond sŵn anadl ei mam — ‘pw — pw’ o hyd.

78Ond yn sydyn o’r tywyllwch dyma rhywbeth yn neidio o’r llawr ar y gwely ac yn ôl drachefn yr un mor sydyn.

79Cyffyrddodd eiliad â bodiau ei thraed ac yna diflannodd i’r distawrwydd.

80Sgiatan wedi dŵad yn ôl, meddyliai Begw wrthi hi ei hun.

81Ond er holi a holi drannoeth, ni chafodd eglurhad ar y mater, dim ond pawb yn gwneud hwyl am ei phen a gwrthod ei chredu, ‘am ei bod yn dychmygu pethau.’