| 1588 | 2004 | beibl.net | כ״י לנינגראד |
1 | Yn y dechꝛeuad y creawdd Duw y nefoedd a’r ddaiar. | Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. | Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear. | בְּרֵאשִׁ֖ית בָּרָ֣א אֱלֹהִ֑ים אֵ֥ת הַשָּׁמַ֖יִם וְאֵ֥ת הָאָֽרֶץ׃ |
2 | Y ddaiar oedd afluniaidd, a gwâg, a thywyllwch [ydoedd] ar wyneb y dyfnder, ac yſpꝛyd Duw yn ymſymmud ar wyneb y dyfroedd. | Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. | Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi’n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. | וְהָאָ֗רֶץ הָיְתָ֥ה תֹ֙הוּ֙ וָבֹ֔הוּ וְחֹ֖שֶׁךְ עַל־פְּנֵ֣י תְה֑וֹם וְר֣וּחַ אֱלֹהִ֔ים מְרַחֶ֖פֶת עַל־פְּנֵ֥י הַמָּֽיִם׃ |
3 | Yna Duw a ddywedodd, bydded goleuni, a goleuni a fû. | A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. | A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. | וַיֹּ֥אמֶר אֱלֹהִ֖ים יְהִ֣י א֑וֹר וַֽיְהִי־אֽוֹר׃ |
4 | Yna Duw a welodd y goleuni mai dâ [oedd,] a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. | Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. | Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. | וַיַּ֧רְא אֱלֹהִ֛ים אֶת־הָא֖וֹר כִּי־ט֑וֹב וַיַּבְדֵּ֣ל אֱלֹהִ֔ים בֵּ֥ין הָא֖וֹר וּבֵ֥ין הַחֹֽשֶׁךְ׃ |
5 | A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn nôs: a’r hwyꝛ a fû, a’r borau a fû, y dydd cyntaf. | Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a’r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. | Rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ i’r golau a’r enw ‘nos’ i’r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. | וַיִּקְרָ֨א אֱלֹהִ֤ים ׀ לָאוֹר֙ י֔וֹם וְלַחֹ֖שֶׁךְ קָ֣רָא לָ֑יְלָה וַֽיְהִי־עֶ֥רֶב וַֽיְהִי־בֹ֖קֶר י֥וֹם אֶחָֽד׃ |
| 1588 | 2004 | beibl.net | כ״י לנינגראד |
1 | A’r holl dîr ydoedd o vn-iaith, ac o vn ymadrodd. | Un iaith ac un ymadrodd oedd i’r holl fyd. | Ar un adeg, un iaith oedd drwy’r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio’r un geiriau. | וַֽיְהִ֥י כָל־הָאָ֖רֶץ שָׂפָ֣ה אֶחָ֑ת וּדְבָרִ֖ים אֲחָדִֽים׃ |
2 | Ac wꝛth fudo o honynt o’ꝛ dwyꝛain, y cawſant waſtadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâſant. | Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno. | Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw’n dod i dir gwastad yn Babilonia Ref ac yn setlo yno. | וַֽיְהִ֖י בְּנָסְעָ֣ם מִקֶּ֑דֶם וַֽיִּמְצְא֥וּ בִקְעָ֛ה בְּאֶ֥רֶץ שִׁנְעָ֖ר וַיֵּ֥שְׁבוּ שָֽׁם׃ |
3 | Ac a ddywedaſant bôb vn wꝛth ei gilydd, deuwch gwnawn bꝛiddfeini, a lloſgwn yn boeth, felly ’r ydoedd ganddynt bꝛiddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. | A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a’u crasu’n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch. | Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi’u tanio’n galed i’w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw’n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.) | וַיֹּאמְר֞וּ אִ֣ישׁ אֶל־רֵעֵ֗הוּ הָ֚בָה נִלְבְּנָ֣ה לְבֵנִ֔ים וְנִשְׂרְפָ֖ה לִשְׂרֵפָ֑ה וַתְּהִ֨י לָהֶ֤ם הַלְּבֵנָה֙ לְאָ֔בֶן וְהַ֣חֵמָ֔ר הָיָ֥ה לָהֶ֖ם לַחֹֽמֶר׃ |
4 | A dywedaſant, moeſwch adailadwn i ni ddinas, a thŵr, ai nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwaſcaru rhyd wyneb yꝛ holl ddaiar. | Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a’i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.” | “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni’n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i’r nefoedd. Byddwn ni’n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd.” | וַיֹּאמְר֞וּ הָ֣בָה ׀ נִבְנֶה־לָּ֣נוּ עִ֗יר וּמִגְדָּל֙ וְרֹאשׁ֣וֹ בַשָּׁמַ֔יִם וְנַֽעֲשֶׂה־לָּ֖נוּ שֵׁ֑ם פֶּן־נָפ֖וּץ עַל־פְּנֵ֥י כָל־הָאָֽרֶץ׃ |
5 | Yna y deſcynnodd yꝛ Arglwydd i weled y ddinas, a’r tŵr, y rhai a adailade meibion dynion. | Disgynnodd yr Arglwydd i weld y ddinas a’r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, | A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a’r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. | וַיֵּ֣רֶד יְהוָ֔ה לִרְאֹ֥ת אֶת־הָעִ֖יר וְאֶת־הַמִּגְדָּ֑ל אֲשֶׁ֥ר בָּנ֖וּ בְּנֵ֥י הָאָדָֽם׃ |
6 | A dywedodd yꝛ Arglwydd, wele bobl yn vn, ac vn iaith iddynt oll, ac dymma eu dechꝛeuad hwynt ar weithio: ac yꝛ awꝛ hon nid oes rwyſtir arnynt am ddim oll ar a amcanaſāt ei wneuthur. | a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. | Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw’n un bobl sy’n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. | וַיֹּ֣אמֶר יְהוָ֗ה הֵ֣ן עַ֤ם אֶחָד֙ וְשָׂפָ֤ה אַחַת֙ לְכֻלָּ֔ם וְזֶ֖ה הַחִלָּ֣ם לַעֲשׂ֑וֹת וְעַתָּה֙ לֹֽא־יִבָּצֵ֣ר מֵהֶ֔ם כֹּ֛ל אֲשֶׁ֥ר יָזְמ֖וּ לַֽעֲשֽׂוֹת׃ |
7 | Deuwch deſcynnwn, a chymmyſcwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallo vn iaith ei gilydd | Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.” | Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.” | הָ֚בָה נֵֽרְדָ֔ה וְנָבְלָ֥ה שָׁ֖ם שְׂפָתָ֑ם אֲשֶׁר֙ לֹ֣א יִשְׁמְע֔וּ אִ֖ישׁ שְׂפַ֥ת רֵעֵֽהוּ׃ |
8 | Felly yꝛ Arglwydd ai gwaſcarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yꝛ holl ddaiar, a pheidiaſant ac adailadu y ddinas. | Felly gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. | Felly dyma’r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy’r byd i gyd, a dyma nhw’n stopio adeiladu’r ddinas. | וַיָּ֨פֶץ יְהוָ֥ה אֹתָ֛ם מִשָּׁ֖ם עַל־פְּנֵ֣י כָל־הָאָ֑רֶץ וַֽיַּחְדְּל֖וּ לִבְנֹ֥ת הָעִֽיר׃ |
9 | Am hynny y gelwir ei henw hi Babel, o blegit yno y cymmyſcodd yꝛ Arglwydd iaith yꝛ holl ddaiar, ac oddi yno y gwaſcarodd yꝛ Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yꝛ holl ddaiar. | Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd (Hebraeg, balal) yr Arglwydd iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear. | Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu Ref ieithoedd pobl, a’u gwasgaru drwy’r byd. | עַל־כֵּ֞ן קָרָ֤א שְׁמָהּ֙ בָּבֶ֔ל כִּי־שָׁ֛ם בָּלַ֥ל יְהוָ֖ה שְׂפַ֣ת כָּל־הָאָ֑רֶץ וּמִשָּׁם֙ הֱפִיצָ֣ם יְהוָ֔ה עַל־פְּנֵ֖י כָּל־הָאָֽרֶץ׃ |